Bywgraffiad:
Mae Al Lewis yn ganwr cyfansoddwr sy'n gorwedd mewn man breuddwydiol rhwng Gareth Bonello (The Gentle Good) a Jack Johnson.

Mae Al wedi bod yn llais adnabyddus ar donfeddi radio Cymreig ers ei lwyddiant gydag Arwel Lloyd pan gipwyd yr ail wobr yng nghystadleuaeth Can i Gymru 2007 gyda'r trac angerddol, Llosgi.

Yn 2007 rhyddhawyd ei EP cyntaf yn y Gymraeg sef 'Byw mewn Breuddwyd' ac fe aeth Al ymlaen i chwarae gwyliau fel Swn, Sesiwn Fawr, Maes B a Wakestock.
Yn 2008 daeth yr ail EP 'Dilyn pob Cam' ynghyd a perfformiadau ar raglenni fel Bandit, Wedi 7, Popty, Nodyn a sesiwn i C2 Radio Cymru.

Rhyddhawyd 'Sawl Ffordd Allan', albym gyntaf Gymraeg Al Lewis Band ym mis Gorffennaf 2009. Cafodd yr albwm ei recordio gan Llion Robertson yn Stiwdio Music Box, Caerdydd ac eithrio Hwyrach Heno a gafodd ei recordio gan Tim Hamill yn Stiwdio Sonic One yn Llangennech. Mae'r albwm, sydd wedi ei chyfansoddi ar y cyd gydag Arwel Lloyd, yn cyflwyno 10 trac amrywiol. Cawn ychydig o roc melodig a baledi rhamantus sy'n diferu gyda melodiau hudolus a chofiadwy. Mae hefyd sain y blues ar Gwenwyn a berfformiwyd yn wych gan yr arwr Meic Stevens ar yr albwm.

"Mae Al ac Arwel yn feistri ar ysgrifennu caneuon melodig a chofiadwy. Llais addfwyn a cherddoriaeth sydd ddim yn merwino'r glust. Mae gwrando ar ei ganeuon yn gwneud i chi fod eisiau clywed mwy..."
Dylan Wyn, Cynhyrchydd BBC Radio Cymru